2014 Rhif 1605 (Cy. 163) (C. 63)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 1) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae’r Gorchymyn yn dwyn i rym adrannau 42 a 48 (yn rhannol) o Ddeddf 2014, a pharagraff 1(1), (2) a (6) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno, ar 14 Gorffennaf 2014. Mae’r adrannau hynny yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol. Effaith y darpariaethau hynny sy’n cychwyn ar 14 Gorffennaf 2014 yw mai ar gyfer y flwyddyn ysgol 2016/2017 y mae’r dyddiadau tymhorau cyntaf y mae awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig wedi penderfynu arnynt ac y mae rhaid i awdurdodau lleol hysbysu Gweinidogion Cymru amdanynt.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym adran 44 o Ddeddf 2014 ar 14 Gorffennaf 2014. Mae’r adran honno yn diwygio adrannau 25 a 26 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas ag ymyrraeth gan Weinidogion Cymru yn y modd y mae swyddogaethau addysg awdurdod lleol yn cael eu harfer.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 43 o Ddeddf 2014 ar 1 Medi 2014. Mae’r adran honno yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

 


2014 Rhif 1605 (Cy. 163) (C. 63)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 1) 2014

Gwnaed                               17 Mehefin 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 50(4) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 1) 2014.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 14 Gorffennaf 2014

2. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 i rym yw 14 Gorffennaf 2014—

(a)     adran 42 (dyddiadau tymhorau a gwyliau ac amserau sesiynau ysgol);

(b)     adran 44 (swyddogaethau addysg awdurdodau lleol yn arferadwy gan y personau a gyfarwyddir);

(c)     adran 48 (mân ddiwygiadau a diddymiadau a diwygiadau a diddymiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan baragraff 1(1), (2) a (6) o Atodlen 3; a

(d)     paragraff 1(1), (2) a (6) o Atodlen 3.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Medi 2014

3. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adran 43 o Ddeddf 2014 i rym yw 1 Medi 2014.

Huw Lewis

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

17 Mehefin 2014

 



([1])           2014 dccc 5.